Employment Wales
Rydym yn helpu pobl groenddu a phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol (BAME) yn ogystal ag ymfudwyr yng Nghymru i ddod o hyd i waith.
Rydym yn cynorthwyo oedolion sy’n 25 neu’n hŷn, sydd un ai wedi bod yn ddi-waith ers tro neu sy’n economaidd anweithgar. Mae’n rhaid i’r rheiny sy’n manteisio ar y cynllun fod yn gymwys i weithio ym Mhrydain.
Byddwn yn cwrdd â chi mewn lleoliad cyfleus ichi neu gallwn gydweithio gyda chi drwy alwadau fideo ar eich ffôn clyfar neu gyfrifiadur.
Byddwn yn cynnig help ichi gyda hyfforddiant, chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, sgiliau cyfweliadau a cheisiadau am swyddi.
Mae Cyflawni Newidiadau drwy ddod o hyd i waith (ACE) yn brosiect elusennol sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a Llywodraeth Cymru ac sydd o dan ofal Newid Tyfu Byw.
Rydym yn cynnig ein cymorth yn gwbl rhad ac am ddim gan eich cynorthwyo i ddod o hyd i waith a dilyn gyrfa gwerth chweil.

Rydym yn cynnig cefnogaeth un-i-un proffesiynol a chyfeillgar i’ch helpu i ddod o hyd i’ch swydd nesaf. Gallwn eich cynorthwyo gyda’r canlynol:
- Trosglwyddo cymwysterau o dramor fel y cân nhw eu cydnabod ym Mhrydain
- Hyfforddiant a chymwysterau newydd
- Ysgrifennu CV
- Canfod swyddi addas
- Cyflwyno ceisiadau swydd
Costau a threuliau

Mae’n hawdd iawn ichi fanteisio ar ein gwasanaeth – gwiriwch ein Meini Prawf o ran Cymhwysedd
I fod yn gymwys i ymuno â’r prosiect ACE, fe ddylech chi fodloni’r gofynion canlynol:
- yn breswylydd mewn ardal gymwys yng Nghymru
- yn oedolyn dros 25 oed
- o gefndir BAME
- yn gymwys i weithio a byw ym Mhrydain
un ai’n ddi-waith ers tro neu’n economaidd anweithgar

